Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar Draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru)  (Ymadael â’r UE) 2019

 

Pwyntiau Technegol

 

Nodwyd un ar ddeg o bwyntiau technegol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar Draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(1) Rheoliad 3(10)(a), sy’n rhoi paragraffau (1) i (4) newydd yn rheoliad 25 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”)

Mewn perthynas â’r pwynt hwn, mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai effaith rhoi paragraffau (1) i (4) yn rheoliad 25 o Reoliadau 2002 gan reoliad 3(10)(a) yw, inter alia, dileu’r cap o 10 mlynedd ar gydsyniadau gan Weinidogion Cymru ar gyfer marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yng Nghymru. Polisi Llywodraeth Cymru yw parhau â’r cap o 10 mlynedd ar ôl ymadael â’r UE. O ganlyniad, bydd diwygiad addas yn cael ei gyflwyno pan fydd y cyfle cyntaf yn codi.

(2) Rheoliad 3(16)(b), sy’n mewnosod paragraff (3A) newydd yn rheoliad 35 o Reoliadau 2002

Mae’r pwynt hwn yn ymwneud â’r paragraff (3A) newydd a fewnosodir yn rheoliad 35 o Reoliadau 2002 gan reoliad 3(16)(b). Mae’r paragraff (3A) newydd yn golygu y caiff gwybodaeth ychwanegol ei rhoi ar gofrestr gyhoeddus pan fo rhywun yn gwneud cais am ganiatâd i farchnata GMO.  Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y diwygiadau o fewn pwerau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae paragraff newydd (3A) (a)-(ch) ac (dd)-(e) yn gwneud darpariaeth i’r crynodebau o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) a rheoliad 17(2)(g) o Reoliadau 2002 gael eu cynnwys yn y gofrestr gyhoeddus. Y Comisiwn sy’n cyhoeddi’r wybodaeth hon ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y darpariaethau yn cael yr effaith o gynnal yr un lefel o dryloywder ar gyfer y cyhoedd, ac nad yw’n golygu newid mewn polisi.

(3) Rheoliad 3(2)(a) ac (f), sy’n diwygio’r diffiniadau a gynhwysir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2002

Mae’r pwynt technegol hwn yn ymwneud â rheoliad 3(2)(a) sy’n newid y diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2002, at ddibenion caniatâd i organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt y dylai’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” gynnwys cynhyrchion a gymeradwywyd o dan y rheoliad bwyd a bwyd anifeiliaid ond na ddylai gynnwys cynhyrchion ar gyfer eu tyfu a gymeradwyir ar ôl y diwrnod ymadael. Bydd diwygiad yn cael ei wneud pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

 

(4) Rheoliad 3(6)(b) ac (c), sy’n diwygio rheoliad 7(2)(e) ac (g) o Reoliadau 2002

Mae’r pwynt technegol hwn yn ymwneud â darpariaeth newydd a fewnosodir yn rheoliad 17(2)(e) ac (g) o Reoliadau 2002, gan reoliad 3(6)(b) ac (c), yn y drefn honno, er mwyn darparu ar gyfer gwybodaeth sy’n ofynnol mewn cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.

O ran y cyfeiriad at Benderfyniad y Cyngor 2002/811/EC a fewnosodir yn rheoliad 17(2)(e) o Reoliadau 2002 gan reoliad 3(6)(b), mae’r Penderfyniad hwn yn cynnwys canllawiau ar gyfer llunio cynllun monitro sydd i’w gynnwys mewn unrhyw gais am gydsyniad i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ar ôl ymadael â’r UE. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw ffurflenni cais (paragraff 2.2.2 o’r adroddiad) yn yr Atodiad i’r Penderfyniad hwnnw, ac mae o’r farn, er y bydd y Penderfyniad yn dod yn gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael, mai ei brif effaith yw darparu canllawiau ar ddarparu cynllun monitro fel rhan o gais am gydsyniad.

O ran y cyfeiriad at Benderfyniad y Cyngor 2002/812/EC, a fewnosodir yn rheoliad 17(2)(g) o Reoliadau 2002 gan reoliad 3(6)(c), gwnaed diwygiadau gweithrediad i’r Atodiad gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019. 

(5) Rheoliad 3(8)(b), sy’n diwygio rheoliad 22(6) o Reoliadau 2002

Mae rheoliad 3(8)(b) yn cyfeirio at Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC, ac nid at 2003/71/EC. Gwnaed diwygiadau gweithrediad i Benderfyniad 2003/701 gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(6) Rheoliad 3(9)(a)(ii), sy’n diwygio rheoliad 24(1)(d) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol (Cymru) 2002

Mae’r ddarpariaeth hon yn disodli rheoliad 24(1)(d) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol 2002 gyda darpariaeth newydd. O ran y cyfeiriad at y rheoliad 24(1)(d) newydd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt ei bod yn ymddangos y dylai’r rheoliad 24(1)(d) newydd ragflaenu rheoliad 24(1)(ch), yn hytrach na’i ddilyn. Bydd diwygiad yn cael ei wneud pan fydd y cyfle nesaf yn codi. 

 

(7) Rheoliad 3(16)(b) a (17), sy’n diwygio rheoliadau 35 a 36 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol (Cymru) 2002

Mae rheoliad 3(16)(b) yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol yn y gofrestr gyhoeddus ynghylch GMO. Nid yw rheoliad 3(17) yn diwygio rheoliad 36 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol (Cymru) 2002 er mwyn rhagnodi terfyn amser i Weinidogion Cymru wneud hynny. Gofynnir, felly, am eglurhad pellach ynghylch absenoldeb dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi’r wybodaeth berthnasol. Mae’r pwynt technegol wedi ei nodi. Bydd diwygiad yn cael ei wneud pan fydd y cyfle nesaf yn codi. 

 

(8) Drwy’r cyfan o reoliad 3

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw (ym mharagraffau 2.6.1 i 2.6.3) at y ffaith y defnyddir dau enw gwahanol i gyfeirio at yr hyn sydd bellach yr un person cyfreithiol, sef “y [cyn-]Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gweinidogion Cymru”.

 

Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y gallai fod yn ddymunol gwneud diwygiadau er mwyn diweddaru cyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol mewn modd mwy cynhwysfawr ond, o ystyried y pwysau sylweddol i ddarparu deddfwriaeth Ymadael â’r UE o fewn terfynau amser hynod heriol, y bu’n rhaid canolbwyntio’r ymdrechion ar wneud y diwygiadau angenrheidiol, o ran gweithrediad a diffygion, i’r ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nad yw’r methiant i ddiweddaru’r cyfeiriadau yn gwneud yr offeryn yn ddiffygiol.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn (paragraff 2.6.4 et seq) am eglurhad pellach o’r rhesymeg y tu ôl i ddiwygiadau i’r ffordd y cyfeirir at rai darnau o ddeddfwriaeth yr UE yn y Rheoliadau, gan gyfeirio’n benodol at reoliad 3(2)(e) sy’n diwygio’r diffiniad, yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2002, o “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi’i Symleiddio (planhigion cnwd)”, gan ailddatgan y diffiniad fel “[c]yfeiriad at y Penderfyniad hwnnw fel y mae’n gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.

Mewn perthynas â’r pwynt a godir ym mharagraff 2.6.5 ynghylch rheoliad 3(2)(e), mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y cyfeiriad at y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002 yn cael ei drin yn wahanol i’r cyfeiriadau at “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”, a “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi’i Symleiddio”. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi’r modd y bwriedir gweithredu Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2019 (sydd ar ffurf ddrafft). Derbynnir bod hyn yn anghyson, a bydd diwygiadau priodol yn cael eu gwneud pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

(9) Rheoliad 4 – diwygiadau i’r Atodlen i Reoliadau Symudiadau ar Draws Ffin Cymru 2005 (“Rheoliadau 2005”)

 Mewn perthynas â’r pwynt sy’n ymwneud â sut y mae’r diwygiadau i Reoliadau Symudiadau ar Draws Ffin (Cymru) 2005 yn weithredol mewn perthynas a’r “darpariaethau Cymunedol penodedig”, hynny yw, y darpariaethau hynny yn Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003 a restrir yn yr Atodlen i Reoliadau 2005, gwnaed diwygiadau gweithrediad i Reoliad (EC) Rhif 1946/2003 gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(10) Rheoliad 3(6)(c)

Derbynnir bod y croesgyfeiriad yn rheoliad 3(6)(c) yn anghywir. Caiff y cyfeiriad hwn ei gywiro drwy slip cywiro ar ôl cyhoeddi’r Rheoliadau.

(11) Rheoliad 3(10)(b)(ii)

Derbynnir bod y croesgyfeiriad yn rheoliad 3(10)(b)(ii) yn anghywir. Caiff y cyfeiriad hwn ei gywiro drwy slip cywiro ar ôl cyhoeddi’r Rheoliadau.

 (12) Rheoliad 3(2)(a) ac (f), sy’n diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2002

Mewn perthynas â’r pwynt rhinweddau ei bod o bwysigrwydd gwleidyddol bod tystysgrifau marchnata ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a wneir o gynhwysion a addaswyd yn enetig, neu sy’n cynnwys cynhwysion a addaswyd yn enetig, a gyhoeddir gan gorff yr UE, yn parhau i gael eu cydnabod yng Nghymru ar ôl Brexit, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau mai dim ond cynhyrchion a fwriedir at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid, ac nid ar gyfer eu tyfu, a fyddai’n cael eu cydnabod yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn ddibynnol ar fwyd anifeiliaid sy’n cael ei fewnforio, a byddai’r rhan fwyaf ohono yn cynnwys cynhwysion GM. Bydd cymeradwyaethau newydd ar gyfer amrywogaethau GM at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid yn parhau o fewn yr UE ar ôl Brexit, ac mae’n debygol y byddai’r rhain yn cael eu cynnwys mewn mewnforion bwyd anifeiliaid i Gymru/y DU yn y dyfodol. Pe na bai’r awdurdodiadau hyn yn cael eu cydnabod yng Nghymru gallai hynny gael effaith andwyol ar fewnforion bwyd anifeiliaid, gan y byddai’n amhosibl canfod pa lotiau o fwyd anifeiliaid a oedd yn cynnwys pa amrywogaethau GM gan eu bod fel arfer yn cynnwys cymysgedd o lawer o wahanol fathau.

Mae gwahaniaeth clir rhwng hynny â chymeradwyo amrywogaethau ar gyfer eu tyfu. Dim ond Gweinidogion Cymru a fyddai’n cymeradwyo’r rhain ar ôl Brexit, ac ni fyddai amrywogaethau newydd at ddibenion tyfu a gymeradwywyd gan yr UE yn cael eu hawdurdodi yn awtomatig yng Nghymru.